Gwasgardgerd Vyrdin yny Bed
Red Book of Hergest II, col. 584-585
Gwr a leueir yn y bed.
A dysgwyt kynn seith mlyned;
March marw eurdein gogled.
Eryueis i o win o wydyr gwynn
Gan rieu ryuel degynn.
Myrdin yw vy enw uab moruryn.
Eryueis i owin o gawc
Gan rieu ryuel eglwc.
Myrdin yw vy enw amheidwc.
Pan del gwrthryn yar olwyn
Du. y lad lloegyr llwybyr wehyn.
Chwerw wenwyn yn amwyn.
Gwynbrynn wynvrynn eisiwyn erhy.
Hir neuet giwet gymry.
Ny byd digellawr ygkellawr ardudwy
Ar ardalwy kymry
Rac arderchawc twrch toryf hy.
Pan dyuo coch nordmandi
Y holi lloegyrwys treul diffwys.
Treth am bop darogan.
Castell yn aber hodni.
Pan dyuo y brych cadarn
Hyt yn ryt bengarn.
Lliwawt gwyr treuliawt karn.
Penndeuic prydein yno penn barn.
Pan dyuo henri y holi
Mur kastell y deruyn eryri.
Galwawt gormes dra gweilgi.
Pan dyuo ygwynngwann y holi llundein.
Yar veirch nyt kein.
Rygeilw ef deyrnas kaergein.
Teneu y mes tew y hyt.
Pan dyuo yndeissyuyt.
Brenhin guas gwae ac cryt.
Mab a uyd mawr y urdas.
A orescyn mil dinas.
Hoedel egin brenhin o was
Kadarn wrth wann aduot.
Gwann wrth gadarn gordirot.
Pennaeth handes gwaeth oe dyuot.
Byt a uyd bryt wrth uawrdes.
Yd bydant gwragedeint llaes vuches.
Bydant llu meibyonein eu kyffes.
Byt a uyd bryt wrth ydes.
Yt wnaho taeawc y les.
Disgiwen bun gwrthbwyth gwas.
Byt a uyd a gorffenn oet.
Pallant ieueinc rac adwyt.
Mei marw cogeu rac annwyt.
Byt a uyd bryt wrth erchwys.
Yd adeilawr yn dyrys.
Heb werth mawr ni chaffawr crys.
Byt a vyd bryt wrthlyeu
Byw mall a gwall ar lannew.
Torredawd geir a chreireu.
Eu diuanwawt gwir lletawt geu.
Gwan ffyd bob eildyd dadleu.
Byt a uyd bryt wrth dillat.
Kyghaws arglwyd maer chwiniat.
Gwacllaw bard hard effeiryat.
Diuannwawr gwyr lletawr gwat.
Byt a uyd heb wynt heblaw.
Heb ormond eredic heb drathreulyaw.
Tir digawn uyd un eru y naw.
Pan dyuo yr gwyr heb wryt.
Ac ynlle ycoet kael yr yt.
Ympob hed gwled agyuyt.
Pan uo kynuelin gymyred. gwyd gwannwyn
A ui. gwedy pennaeth gwenwyn.
Bydawt gwaeth budelw no chrowyn.
Duw merchyr dyd kyghor fen.
Ytreulyawr llafnawr ar benn
Cudyant deu ygkreu kyghenn.
Yn aber sor yt uyd kyghor
Ar wyr gwedy trin treulitor.
Glyw gwyn llyw yn yscor.
Yn aber auon y byd llu mon
Eingyl gwedy hinwedon.
hir weryt arwryt uoryon.
Yn aber dwfyr nwy deil duc
Yt vi agnaho gwidic.
A gwedy cat kyuarlluc.
Cat a vi ar hyrri
Auon. a brython dyworpi.
Gnawt gwyr gwhyr gwrhydri.
Yn aber y don peruor cat
A phelydyr anghyuyon.
A gwaet rud ar rud saesson.
Wassawc dy waed dy wendyd
Am dywawt wylyon.
Mynyd yn aber karaf.